Cayenne
Gwedd
| Math | cymuned, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 62,675 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Sandra Trochimara |
| Gefeilldref/i | Salvador |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 23.6 km² |
| Uwch y môr | 143 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Yn ffinio gyda | Macouria, Matoury, Remire-Montjoly |
| Cyfesurynnau | 4.9386°N 52.335°W |
| Cod post | 97300 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cayenne |
| Pennaeth y Llywodraeth | Sandra Trochimara |
![]() | |
- Erthygl am y ddinas yw hon. Gweler hefyd Cayenne (gwahaniaethu).

Prifddinas Guyane, département a rhanbarth tramor o Ffrainc yn Ne America, yw Cayenne. Gorwedd y ddinas ar gyn ynys ar aber Afon Cayenne ar arfordir Cefnfor Iwerydd.
Yn ôl cyfrifiad, roedd yna 66,149 o bobl yn byw yn ardal drefol Cayenne, gyda 50,594 ohonynt yn byw yn ninas (commune) Cayenne ei hun, a'r gweddill yn commune gyfagos Remire-Montjoly. Mae commune Matoury (poblogaeth 18,032 yn 1999), lle ceir Maes Awyr Cayenne-Rochambeau, yn un o faesdrefi Cayenne hefyd. Yn cynnwys Matoury, roedd gan yr ardal drefol gyfan boblogaeth o 84,181 yn 1999. Erbyn 2008 mae'n bosibl fod y ffigwr yn agosach i 100,000 neu ragor, gyda nifer o fewnfudwyr o Frasil a'r Caribi yn tyrru yno i gael gwaith.
