Neidio i'r cynnwys

Cynghrair Gwynedd

Oddi ar Wicipedia

Cynghrair bêl-droed ar gyfer timau o hen sir Gwynedd yw Cynghrair Gwynedd. Mae'r gynghrair yn gyfystur â phumed lefel pyramid bêl-droed Cymru ac yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd. Mae Cynghrair Gwynedd yn un o ddwy gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Undebol y Gogledd ond ers diddymiad Cynghrair Caernarfon a'r Cylch a Chynghrair Dyffryn Conwy, Cynghrair Ynys Môn yw'r unig gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Gwynedd.

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1983 er mwyn pontio'r bwlch rhwng cynghreiriau lleol Ynys Môn, Caernarfon a'r cylch a Dyffryn Conwy a chynghrair Chynghrair Cymru (Y Gogledd). Cafodd Amaturiaid Llandudno, Benllech a'r Cylch, Bethesda, Conwy, Llanfairpwll, Porthmadog, Teigrod Porthaethwy ac Y Felinheli eu hethol yn aelodau cyntaf y gynghrair newydd, ond tynnodd Porthmadog yn ôl cyn dechrau'r tymor gyda Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle.[1]

Y Felinheli oedd y pencampwyr cyntaf gan ennill y gynghrair ar wahanaiaeth goliau gyda Llanfairpwll yn ail.[2]

Cafwyd problemau denu timau i ymaelodi â'r Gynghrair yn yr ail dymor wedi i Teigrod Porthaethwy dynnu yn ôl oherwydd problemau ariannol ac wedi i'r Felinheli a Llanfairpwll ymaelodi â chynghrair newydd Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd. Penderfynodd Prifysgol Bangor, Bethesda a Chonwy ymuno â'r Gynghrair Undebol hefyd ar ôl sylweddoli nad oedd digon o glybiau am ymuno â Chynghrair Gwynedd ar gyfer 1984-85, ond cafwyd chwaraewyd gemau rhwng y pum tîm er mwyn cadw enw'r gynghrair yn fyw.[1]

Wedi seibiant o flwyddyn, atgyfodwyd y Gynghrair ar gyfer tymor 1986-87 gyda chlybiau Conwy, Coleg Normal, Harlech, Locomotive Llanberis, Llanerchymedd, Llanfairpwll, Llanrug, Machno a Phrifysgol Bangor.[3]

Pencampwyr

[golygu | golygu cod]
Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr Tymor Pencampwyr
1983-84Y Felinheli1993-94Glantraeth2003-04Llanrwst2013-14Llanerchymedd
1984-85Bethesda1994-95Ail dîm Porthmadog2004-05Ail dîm Porthmadog2014-15Llanllyfni
1985-86Dim cystadleuaeth1995-96Ail dîm Conwy2005-06Pwllheli
1986-87Locomotive Llanberis1996-97Hotspur Caergybi2006-07Bermo a Dyffryn
1987-88Dyffryn Nantlle1997-98Amlwch2007-08Llanllyfni
1988-89Llangefni1998-99Glan Conwy2008-09Amaturiaid Blaenau Ffestiniog
1989-90Llangefni1999-2000Bethesda2009-10C.P.D Gwalchmai
1990-91Llanrug2000-01Y Felinheli2010-11Bro Goronwy
1991-92Nefyn2001-02Bodedern2011-12Penrhyndeudraeth
1992-93Tref Caergybi2002-03Llanrug2012-13Bae Trearddur

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Gwynedd Football League History". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.[dolen farw]
  2. ↑ "Gwynedd League: 1983-84". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.
  3. ↑ "Gwynedd League: 1986-87". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]