Deuawd
Gwedd
| Enghraifft o: | math o waith neu gyfansodiad cerddorol, deuad |
|---|---|
| Math | cyfansoddi cerddoriaeth, offeryniaeth |
| Enw brodorol | duetto |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/017bqr |
Cyfansoddiad i ddau berfformiwr, lleisiol neu offerynnol,[1] neu’r ddau berfformiwr sy'n canu neu'n chwarae cyfansoddiad o'r fath, yw deuawd. Yn yr ystyr cyntaf (cyfansoddiad) mae'n cyfateb i'r gair Saesneg duet, yn yr olaf (perfformwyr) mae'n cyfateb i'r gair Saesneg duo. Mewn gwirionedd, mae cyfansoddiadau lleisiol a elwir yn ddeuawdau fel arfer yn cynnwys cyfeiliant offerynnol.[2] Mae hyn yn anochel mewn gweithiau fel operâu ac oratorios.
Gelwir ensemble cerddorol sydd â mwy na dau offeryn unigol neu ddau lais yn driawd, pedwarawd, pumawd, chwechawd, seithawd, wythawd, ac ati.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ deuawd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Medi 2026.
- ↑ The New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie (Llundain: Macmillan, 1980), s.v. "Duet"