Neidio i'r cynnwys

Jo Stevens

Oddi ar Wicipedia
Jo Stevens
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
5 Gorffennaf 2024 – 21 Gorffennaf 2026
Rhagflaenydd David T. C. Davies
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
7 Hydref 2016 – 27 Ionawr 2017
Rhagflaenydd Paul Flynn
Olynydd Christina Rees
Cyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol
Yn ei swydd
13 Ionawr 2016 – 6 Hydref 2016
Arweinydd Jeremy Corbyn
Aelod Seneddol
dros Canol Caerdydd
Yn ei swydd
7 Mai 2015 – 30 Mai 2024
Rhagflaenydd Jenny Willott
Olynydd cafodd ei diddymu
Mwyafrif 4,981 (12.9%)
Aelod Seneddol
dros Dwyrain Caerdydd
Yn ei swydd
Dechrau
4 Gorffennaf 2024
Rhagflaenydd etholaeth newydd
Mwyafrif 9,097 (23.3%)
Manylion personol
Ganwyd (1966-09-06) 6 Medi 1966 (60 oed)
Abertawe, Cymru
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Prifysgol Manceinion
Prifysgol Fetropolitan Manceinion
Gwefan jostevens.co.uk

Gwleidydd Llafur o Gymru yw Joanna Meriel "Jo" Stevens[1] (ganwyd 6 Medi 1966)[2]. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Caerdydd Canolog yn etholiad cyffredinol Mai 2015.[3] Fe'i gwnaed yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn etholiad cyffredinol 2024,[4] ond gadawodd y swydd yng Ngorffennaf 2026.[5]

Bywyd cynnar a gyrfa

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Stevens yn Abertawe a magwyd yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.[6]

Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a cwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.[7]

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobl gyda Thompsons Solicitors.[6]

Aelod Seneddol

[golygu | golygu cod]

Etholwyd Stevens fel Aelod Seneddol dros ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro y deiliad Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott.[3]

Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe'i hapwyntiwyd yn cyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.

Yn ad-drefniant mis Hydref 2016 yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid daeth yn Ysgrifennydd Cymru cysgodol.[8] Ymddiswyddodd ar 27 Ionawr 2017 mewn protest am fod Corbyn yn gorfodi ASau Llafur i bleidleisio o blaid Erthygl 50.[9]

Safbwyntiau

[golygu | golygu cod]

Unoliaethwr yw Jo Stevens sy'n "credu yn y Y Deyrnas Unedig," gan wrthwynebu annibyniaeth i Gymru a chefnogi cynigion i wanhau setliad datganoli.[10][11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ The London Gazetteno. 61230. p. 9127[dolen farw]. 18 Mai 2015.
  2. ↑ "Jo Stevens MP". myparliament.info (yn Saesneg). MyParliament. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2017. Cyrchwyd 11 Awst 2017.
  3. 1 2 "Cardiff Central Parliamentary constituency"
  4. ↑ "Cadarnhau Jo Stevens fel Ysgrifennydd Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  5. ↑ "Jo Stevens yn gadael swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru". BBC Cymru Fyw. 2026-07-20. Cyrchwyd 2026-07-20.
  6. 1 2 "Democracy Club CVs" Archifwyd 18 Mai 2015 yn y Peiriant Wayback
  7. ↑ "Jo Stevens – About".
  8. ↑ "As it happened: Steven Woolfe in hospital and Labour reshuffle".
  9. ↑ Brexit: Jo Stevens yn ymddiswyddo o'r fainc flaen , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2017.
  10. ↑ Gareth (2022-02-15). "'I don't like nationalism', because it's 'insular' says Shadow Welsh Secretary". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-27.
  11. ↑ Mansfield, Mark (17 Chwefror 2023). "Welsh shadow minister accused of undermining devolution". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Mawrth 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]