Neidio i'r cynnwys

Patrick Stewart

Oddi ar Wicipedia
Patrick Stewart
Ganwyd13 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Mirfield Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 2026 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer, dementia corff Lewy Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Theatr Old Vic, Bryste
  • Crowlees Junior and Infant School
  • The Mirfield Free Grammar Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llais, cyfarwyddwr, academydd, actor llwyfan, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, cerddor, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amX-Men, Star Trek: The Next Generation Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodSheila Falconer, Wendy Neuss, Sunny Ozell Edit this on Wikidata
PlantDaniel Stewart, Sophie Alexandra Stuart Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog Faglor, Gwobr Grammy am yr Albwl Llafar Gorau i Blant, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Laurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Laurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Gwobr Sadwrn am yr Actor Cefnogol Gorau, Saturn Award for Best Actor on Television, Saturn Award for Best Actor on Television Edit this on Wikidata
llofnod

Actor o Loegr oedd Syr Patrick Stewart (13 Gorffennaf 1940 – 28 Hydref 2026). Cafodd yrfa dros 60 mlynedd ar y llwyfan ac ar y sgrîn, gan dderbyn nifer o wobrau, gan gynnwys dwy Wobr Laurence Olivier a Gwobr Grammy, yn ogystal ag enwebiadau ar gyfer Gwobr Tony, tair Gwobr Golden Globe, pedair Gwobr Emmy, a thair Gwobr Screen Actors Guild. Cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines Elisabeth II am ei wasanaeth i ddrama yn 2010.[1]

Fe'i ganwyd ym Mirfield, Swydd Efrog, yn fab i'r milwr Alfred Stewart a'i wraig Gladys (née Barrowclough).

Roedd yn aelod o'r Royal Shakespeare Company rhwng 1966 a 1982. Roedd ei brif rannau cyntaf ar y sgrin yn y cyfresi teledu Fall of Eagles (1974), I, Claudius (1976) a Tinker Tailor Soldier Spy (1979). Yn 2008, dychwelodd i chwarae rhan y Brenin Claudius yn Hamlet, gan ennill ei ail Wobr Laurence Olivier a derbyn ei enwebiad cyntaf ar gyfer Gwobr Tony, am y cynyrchiadau theatr yn y West End ac ar Broadway, yn y drefn honno.

Enillodd Stewart enwogrwydd rhyngwladol fel y Capten Jean-Luc Picard, y brif rhan yn y gyfres deledu ffuglen wyddonol Americanaidd Star Trek: The Next Generation (1987–1994).

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Sheila Falconer yn 1966 gan ysgaru yn 1990. Ganwyd dau o blant iddynt - Daniel a Sophie. Priododd y gantores Sunny Ozell yn 2013.

Bu farw yn 86 mlwydd oed wedi dioddef o Afiechyd Alzheimer a Dementia corff Lewy.[2]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]
  • Fall of Eagles (1974; fel Lenin)
  • North and South (1975)
  • I, Claudius (1976)
  • Tinker, Tailor, Soldier, Spy (1979)
  • Smiley's People (1982)
  • Star Trek: The Next Generation (1987-1994)
  • The Canterville Ghost (1996)
  • Richard II (2012)
  • Star Trek: Picard (2020-2023)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Sir Patrick Stewart: Actor who moved effortlessly between Star Trek and Shakespeare". BBC News (yn Saesneg). 2026-10-29. Cyrchwyd 2026-10-29.
  2. ↑ "'Talent unigryw': Teyrngedau i'r actor Syr Patrick Stewart yn dilyn ei farwolaeth". newyddion.s4c.cymru. 2026-10-30. Cyrchwyd 2026-10-30.