Phil Campbell
| Phil Campbell | |
|---|---|
| Y Cefndir | |
| Enw (ar enedigaeth) | Philip Anthony Campbell |
| Llysenw/au | Lord Axsmith Zoom Wizzö |
| Ganwyd | 7 Mai 1961 Pontypridd, Cymru |
| Bu farw | 13 Mawrth 2026 |
| Math o Gerddoriaeth | Metal trwm, roc trwm, roc a rôl |
| Gwaith | Cerddor, cyfansoddwr |
| Offeryn/nau | Gitâr, llais |
| Cyfnod perfformio | 1979–presennol |
| Perff'au eraill | Motörhead, Persian Risk, Phil Campbell's All Starr Band |
| Gwefan | imotorhead.com |
| Offerynnau nodweddiadol | |
| Gibson Les Paul LAG Phil Campbell Model Parker Nitefly Gibson Explorer Framus Panthera | |
Cerddor roc o Gymru oedd Philip Anthony Campbell (7 Mai 1961 – 13 Mawrth 2026).[1] Roedd yn fwyaf enwog fel gitarydd blaen y grŵp roc Motörhead rhwng 1984 a 2015, pan ddaeth y band i ben yn dilyn marwolaeth eu canwr Lemmy. Ymddangosodd ar 15 o albymau'r band a 4 albwm byw.
Ffurfiodd y grŵp roc trwm Persian Risk yn 1979 a roedd y band yn weithredol tan 1986.[2] Bu hefyd yn chwarae gyda'i fand ei hun, Phil Campbell and the Bastard Sons, oedd yn cynnwys ei dri fab.[1]
Ganed Campbell ym Mhontypridd, a chychwynodd ddysgu'r gitâr pan oedd yn 10 oed. Fe'i ysbrydolwyd dros y blynyddoedd gan: Jimi Hendrix, Tony Iommi (Black Sabbath), Jimmy Page (Led Zeppelin), Jan Akkerman, Michael Schenker a Todd Rundgren.
Yn 2004 cyhoeddwyd mai Phil Campbell oedd yr ugeinfed Cymro mwyaf a fu erioed, a derbyniodd 763 o bleidleisiau.[3]
Roedd yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig Gaynor. Bu farw yn 64 mlwydd oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Motörhead guitarist Phil Campbell dies aged 64 after 'courageous battle'". BBC News (yn Saesneg). 2026-03-14. Cyrchwyd 2026-03-14.
- ↑ "Philip Anthony Campbell". AOL Music. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-30. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2008.
- ↑ "The top 100 in the Welsh Heroes list". Western Mail. Cardiff: Trinity Mirror. 2 Mawrth 2004. Cyrchwyd 7 Mai 2013.
