Neidio i'r cynnwys

Rhos Mair

Oddi ar Wicipedia
Rhos Mair
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Rosmarinus
Rhywogaeth: S. rosmarinus
Enw deuenwol
Salvia rosmarinus
L.
Salvia rosmarinus
Salvia rosmarinus

Perlysieuyn blodeuol, lluosflwydd persawrus yw rhos Mair,[1] rhosmari[2] neu ysbwynwydd[3] (Lladin: Salvia rosmarinus a Rosmarinus officinalis nes 2017) sy'n cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd ac oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae'n perthyn i deulu'r mintys (Lamiaceae) ac mae ganddo ddail nodwyddig, bytholwyrdd.

Mae llawer math gwahanol i'w gael, rhai'n tyfu'n llorwedd ac eraill ar i fyny hyd at 1.5 metr o uchder. Mae'r dail rhwng 2 – 4 cm o hyd 2 – 5 mm o led a'u lliw'n wyrdd (uchod) a gwyn wyneb isaf a rheiny yn flewog. Yn y gaeaf neu'r gwanwyn mae'r blodau'n ymddangos a gall eu lliwiau nhw amrywio: gwyn, pinc, porffor neu las.

Rhinweddau meddygol

[golygu | golygu cod]

Mae rhosmari'n cael ei ddefnyddio'n allanol fel siampŵ i wella'r lliw a'r cyflwr. Arferai'r Rhufeiniaid ei ddefnyddio a'i gyfri'n gysegredig oherwydd y rhinweddau hyn. Mae hefyd yn gwella gwynegon (cricmala), niwralgia, y bendro, nerfusrwydd fel gorguro'r galon a phoenau'r misglwyf.[4]

Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall gynorthwyo'r 'cof'.[5] Bu'n symbol o 'gof hir' ers canrifoedd ac mewn rhai rhannau o Ewrop caiff ei daflu ar yr arch i 'gofio' am y marw. Dywed Ophelia hefyd yn Hamlet: There's rosemary, that's for remembrance.(Shakespeare: Hamlet, iv. 5.)

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ceir sawl cyfeiriad ato mewn llenyddiaeth gan gynnwys hen benillion Ar lan y môr:

"Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad;
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari."

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  rhos%20Mair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  2. ↑  rhosmari. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  3. ↑  ysbwynwydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2018.
  4. ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  5. ↑ Gwefan Saesneg 'Informa Healthcare'

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]