Neidio i'r cynnwys

Trefor

Oddi ar Wicipedia
Trefor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,067 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.993°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH371467 Edit this on Wikidata
Cod postLL54 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddGwynedd Maldwyn
Etholaeth y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngwynedd yw hon. Gweler hefyd Trefor (gwahaniaethu).

Pentref gerllaw Yr Eifl ar arfordir gogleddol Llŷn yng Ngwynedd yw Trefor ("Cymorth – Sain" ynganiad ) . Saif ychydig oddi ar y briffordd A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn, lle maer'r briffordd yn gadael yr arfordir ac yn troi tua'r de. Mae'n rhan o gymuned Llanaelhaearn. Mae yno harbwr bychan, pier a thraeth. Llifa Afon Tal i'r môr yn y pentref.

Trefor o lethrau Yr Eifl
Trefor gyda phen gogleddol Yr Eifl
Chwarel Sets, Trefor, c.1875

Pentref cymharol newydd yw Trefor. Yn 1839 nid oedd dim yno ond ffermydd a hanner dwsin o dai chwarelwyr. Tyfodd y pentref pan ddatblygodd y chwarel ithfaen ar Yr Eifl, a agorwyd yn 1850.

'Y Gwaith Mawr' oedd yr enw a roddwyd ar y chwarel newydd; yn ôl y sôn dyma chwarel sets fwyaf yn y byd, am gyfnod. Er ei fod ar lan y môr, nid "Tre-fôr" yw tarddiad yr enw. Enw gwreiddiol yr ardal yma oedd yr Hendre Fawr, neu'n syml,yr Hendre.[1] Ceir y cofnod cyntaf o'r enw hwn yn 1552.

Ail-enwyd y pentref yn 1850 ar ôl Trevor Jones, rheolwr y chwarel.[2] Gweithwyr yn y chwarel a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth ac i blant y gweithwyr y codwyd yr ysgol gyntaf. Yn 1865 agorwyd tramffordd Chwarel yr Eifl i ddod a'r ithfaen o'r chwarel i'r harbwr. O'r cychwyn cyntaf bron roedd 'na berthynas glos rhwng gweithwyr chwarel Trefor a chwarel ithfaen Penmaenmawr.

Mae Seindorf Arian Trefor, a sefydlwyd yn 1863, yn un o'r hynaf yng Ngwynedd.

Ffilmiwyd y gyfres deledu Minafon yma yn yr 1980au a dogfennwyd bywyd y pentre yn y gyfres Trefor Only a ddangoswyd ar S4C yn 2005.[3]

Pobl o Drefor

[golygu | golygu cod]
Y cei yn Nhrefor
  • Thomas Bowen Jones. Bardd ac enillydd Cenedlaethol
  • Alun Jones. Llenor, enillydd cenedlaethol a pherchennog Llen Llyn, Pwllheli
  • Geraint Jones. Cerddor ac ymgyrchydd.
  • Morgan Jones. Sylwebydd chwaraeon.
  • Bet Jones, Llennor ac enillydd cenedlaethol
  • Guto Dafydd, bardd y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 2014
  • Elis Dafydd, bardd y Gadair, Eisteddfod yr Urdd, Caerffili, 2015
  • Edward John (E. J.) Hughes (1888-1967). Cerddor ac organydd.
  • Miriam Trefor o Drefor

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gweler Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2008)
  2. ↑ Yng Nghyfrifiad 1851 cofnodir bod Trevor Jones, lojar yn Gwydir Bach, yn 'Agent (Granite stone works)' a'i fod yn 42 oed ac yn enedigol o blwyf Llanllyfni.
  3. ↑ Welsh village to star in real life TV soap (en) , WalesOnline, 12 Chwefror 2005. Cyrchwyd ar 9 Mai 2020.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl (Gwilym Jones, 1972)
  • Gwilym Owen, Dan Gysgod yr Eifl (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1990). Cyfrol fach ar chwaareli Llŷn gydag adran am chwarel Trefor.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]